Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ionawr 2017

Amser: 09.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3875


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Simon Thomas AC (Cadeirydd)

Mike Hedges AC

Huw Irranca-Davies AC

David Rees AC

Steffan Lewis AC

Nick Ramsay AC

Mark Reckless AC

Tystion:

Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru

Rhodri Jones, Llywodraeth Cymru

Lee Marshall, Pwyllgor Ymgynghorol Ailgylchu Awdurdodau Lleol

Brian Mayne, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff

Clare McCallan, Cyfoeth Naturiol Cymru

Becky Favager, Cyfoeth Naturiol Cymru

Kim Gutteridge, RSPB

Dr Stephen Marsh-Smith, Afonydd Cymru

Dr Patrick Bishop, Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU

James Byrne, Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Georgina Owen (Dirprwy Glerc)

Gemma Gifford (Dirprwy Glerc)

Christian Tipples (Ymchwilydd)

Helen Jones (Ymchwilydd)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

 

1.1        Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Morgan AC.

 

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Huw Irranca-Davies AC, a oedd yn dirprwyo ar ran Eluned Morgan AC.

 

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

 

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

</AI2>

<AI3>

3       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

 

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Chris Tudor-Smith, Uwch Swyddog Cyfrifol, Llywodraeth Cymru; a Rhodri Jones, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru.

 

</AI3>

<AI4>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

 

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI4>

<AI5>

5       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Trafod y dystiolaeth

 

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI5>

<AI6>

6       Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3

 

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Brian Mayne, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru – Effeithlonrwydd Adnoddau a Rheoli Gwastraff, Ricardo Energy & Environment, ac aelod o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff; a Lee Marshall, Prif Swyddog Gweithredol, Pwyllgor Ymgynghorol Ailgylchu Awdurdodau Lleol.

 

</AI6>

<AI7>

7       Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4

 

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Clare McCallan, Rheolwr y Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Cyfoeth Naturiol Cymru; a Becky Favager, Rheolwr Gwastraff ac Adnoddau - Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

7.2 Cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i:

 

·         gadarnhau a fydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn ddogfen gyhoeddus; a

·         darparu nodyn ar safleoedd tirlenwi ledled Cymru sydd â thrwydded i waredu gwastraff peryglus.

 

 

</AI7>

<AI8>

8       Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 5

 

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Kim Gutteridge, Pennaeth Grantiau, Codi Arian Mawr - Cynllunio a Datblygu, RSPB; Dr Stephen Marsh-Smith, Afonydd Cymru; Dr Patrick Bishop, Uwch Ddarlithydd, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe, a Chymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU; a James Byrne, Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru.

 

 

</AI8>

<AI9>

9       Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Trafod y dystiolaeth

 

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

 

</AI9>

<AI10>

10   Gohebiaeth gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru

 

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth hon a chytunodd i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

</AI10>

<AI11>

11   Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Trefn y broses drafod

 

11.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddilyn y drefn a ganlyn o ran trafod y gwelliannau a gyflwynir i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yng Nghyfnod 2:

 

Adrannau 2-13

Atodlen 2

Adrannau 14-17

Atodlen 3

Adran 18

Atodlen 4

Adrannau 19-30

Atodlenni 8-21

Adrannau 31-32

Atodlen 5

Adrannau 33-40

Atodlen 6

Adran 41

Atodlen 7

Adrannau 42-75

Atodlen 22

Adrannau 76-80

Adran 1

Atodlen 1

Teitl hir

 

 

</AI11>

<AI12>

12   Goblygiadau ariannol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

 

12.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Cytunwyd y dylid gwahodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i'r Pwyllgor at ddibenion craffu pellach.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>